Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ystadegau Dysgu Cymraeg

Data y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Ystadegau Dysgu Cymraeg

Mae data'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cronfa ddata ganolog yn casglu gwybodaeth gan bob dysgwr wrth iddynt gofrestru i fynychu cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am y dysgwr (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a’r cwrs (lefel, lleoliad, dwyster y dysgu).

Dechreuodd y Ganolfan gyhoeddi data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-2018.

Mae'r data a gyhoeddir yn cynnwys gwybodaeth am holl waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mae hyn yn cynnwys y gwaith Dysgu Cymraeg wyneb yn wyneb a rhithiol yn y gymuned, cynllun Cymraeg Gwaith sy'n darparu cyfleoedd Dysgu Cymraeg i weithluoedd, cynllun Cymraeg yn y Cartref sy'n darparu cyfleoedd Dysgu Cymraeg i deuluoedd, Cynllun Ymlaen gyda'r Dysgu Pobl Ifanc sy'n darparu cyfleoedd Dysgu Cymraeg i bobl ifanc 16-25 oed a Cynllun y Gweithlu Addysg, sy'n darparu cyfleoedd Dysgu Cymraeg i weithlu'r Sector Addysg.  Mae data 2023-24 hefyd yn cynnwys darpariaeth o fath wahanol i'r Ganolfan, sef darparu cyfleoedd codi hyder i siaradwyr Cymraeg di-hyder.  

Mae’r data hefyd yn cynnwys ystod o ddulliau dysgu, gan gynnwys dysgu wyneb yn wyneb, dysgu rhithiol, dysgu cyfunol a hunan-astudio.

Cyhoeddiad diweddaraf - 2023 - 2024

Cyfnod Data: 1 Awst 2023 - 31 Gorffennaf 2024

Dyddiad Cyhoeddi: Dydd Iau 27 Mawrth 2025, 9:30yb

Rydym yn gyhoeddwyr ystadegau swyddogol

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyhoeddwyr ystadegau swyddogol. Wrth gyhoeddi ein data, byddwn yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Awdurdod Ystadegau'r DU (UKSA).

 

Beth yw'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau?

Mae'r cod yn cyflwyno fframwaith er mwyn sicrhau bod ystadegau yn ddibynadwy, o ansawdd ac yn werthfawr.

Mae'r cod wedi ei seilio ar yr egwyddorion hyn gan osod y gweithdrefnau angenrheidiol er mwyn eu sicrhau.

Trwy gydymffurfio â'r cod, gall defnyddwyr yr ystadegau ymddiried yn y wybodaeth a gynhyrchir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

 

EGWYDDORION

DIBYNADWYEDD - Ymddiriedaeth yn y sefydliadau a'r rhai sy'n cynhyrchu ystadegau a data

  • Gonestrwydd a dilysrwydd
  • Penderfyniadau annibynnol ac arweiniad
  • Rhyddhau’n drefnus
  • Prosesau a rheolaeth sy’n dryloyw
  • Gallu proffesiynol
  • Llywodraethu data

 

ANSAWDD - Data a dulliau sy'n sicrhau ystadegau o ansawdd

  • Ffynonellau data addas
  • Dulliau cadarn
  • Sicrhau ansawdd

 

GWERTH - Ystadegau sy'n bodloni angen cymdeithas am wybodaeth

  • Perthnasedd i ddefnyddwyr
  • Hygyrchedd
  • Eglurdeb a chrebwyll clir
  • Arloesi a gwella
  • Effeithlonrwydd a chymesuredd

 

Beth fyddwn ni'n ei wneud os bydd y cod wedi ei dorri?

  • Byddwn yn hysbysu'r Ystadegydd Cenedlaethol os oes cwynion am safon ein cyhoeddiadau ystadegol.
  • Byddwn yn adrodd wrth yr Ystadegydd Cenedlaethol os bydd data yn cael ei ryddhau yn ddamweiniol neu mewn modd anghywir.
  • Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn ymchwilio i amgylchiadau os bydd yn arwain at dorri'r cod ac yn rhoi gwybod i Awdurdod Ystadegau'r DU (UKSA).
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am yr ystadegau, yna cysylltwch â Swyddfa@dysgucymraeg.cymru.