Cronfa Ariannol Wrth Gefn
Eisiau cymorth ariannol wrth ddysgu Cymraeg?
Mae cymorth ar gael drwy’r Gronfa Ariannol wrth Gefn i Ddysgwyr.
I fod yn gymwys, mae angen i chi:
- fod wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg gydag un o Ddarparwyr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol,
- fod yn 16 mlwydd oed neu hŷn ar 31 Awst 2024,
- fod yn breswylydd sefydlog, cyfreithiol, yn y DU, a hynny ers o leiaf 3 blynedd; neu gwrdd â'r amodau preswylio yn y Canllaw Cymhwysedd Dysgwyr ar gyfer cyllid ôl-16 (manylion yn y polisi ar y wefan),
- gadarnhau y basai’n anodd cael mynediad i’ch astudiaethau heb gymorth gan y Gronfa achos fod ystyriaethau ariannol yn rhwystr, e.e. dych chi ar incwm isel.
Mae posib cael cymorth ariannol i'ch helpu gyda chostau fel
- gofal plant
- ffi arholiadau
- adnoddau (e.e. llyfrau, offer technegol)
- costau teithio a pharcio
*Nid oes modd hawlio cymorth at ffioedd cwrs
Am fwy o wybodaeth, darllenwch: