Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Arholiadau Cymraeg Gwaith

Arholiadau 2022 – bydd modd cofrestru i sefyll arholiadau Cymraeg 2022 trwy gwblhau’r ffurflen yma. 

Y dyddiad cau ar gyfer arholiadau Ionawr yw Rhagfyr 8fed, 2021.

Y dyddiad cau ar gyfer arholiadau’r Haf yw 23 o Chwefror 2022.

 

Dyma'r dyddiadau ar gyfer arholiadau Ionawr 2022:

Lefel Dyddiad
Mynediad (Dydd) Dydd Gwener, 28/01/2022

Y dyddiad cau ar gyfer arholiadau Ionawr yw Rhagfyr 8fed, 2021.

 

Dyma'r dyddiadau ar gyfer arholiadau'r Haf 2022:

Lefel Dyddiad
Mynediad Haf (Dydd) Dydd Mercher, 08/06/2022
Mynediad Haf (Nos) Nos Iau, 09/06/2022
Sylfaen Dydd Gwener, 17/06/2022
Canolradd Dydd Gwener, 10/06/2022
Uwch Dydd Mercher a Dydd Iau, 15/06/2022 a 16/06/2022.

Y dyddiad cau ar gyfer arholiadau’r Haf yw 23 o Chwefror 2022.

Os dych chi’n dysgu ar un o gyrsiau Cymraeg Gwaith,  mae’r arholiadau yn cael ei cynnig am ddim eleni.

Llyfrynnau i ymgeiswyr 2022

Mae'r llyfrynnau isod yn amlinellu'r profion Siarad ar-lein yn unig ar gyfer arholiad mis Ionawr. 

Ar y tudalennau hyn mae gwybodaeth am y cymwysterau a'r adnoddau mae CBAC yn eu darparu i'r sector Dysgu Cymraeg. 

Mae'r cymwysterau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol. Mae'n bosib ennill y cymwysterau trwy sefyll arholiad ar ddiwrnod penodol. Mae'r arholiadau yn agored i oedolion sy wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith neu sy wrthi'n dysgu ar hyn o bryd.  

Mae'r cymwysterau yn addas i bobl sy'n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle. Does dim rhaid bod mewn dosbarth i sefyll arholiad na bod wedi sefyll arholiad is yn gyntaf. 

Mae'r fframwaith yn y tabl isod yn dangos sut mae'r cymwysterau yn perthyn i'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol ac i fframwaith ALTE/Fframwaith Cyfeirio Ewrop. 

Cymhwyster Lefel yn y fframwaith Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop
Mynediad Mynediad A1
Sylfaen 1 A2
Canolradd 2 B1
Uwch 3 B2