Arholiadau Cymraeg Gwaith 2023
Arholiadau 2023 – bydd modd cofrestru i sefyll arholiadau Cymraeg 2023 trwy gwblhau'r ffurflen yma.
Y dyddiad cau ar gyfer arholiadau Ionawr 2023 yw 8 Rhagfyr 2022.
Y dyddiad cau ar gyfer arholiadau’r Haf yw 1 Mawrth 2023.
Lefel | Dyddiad |
Mynediad Ionawr (Dydd) | Dydd Gwener, 27/01/2023 |
Y dyddiad cau ar gyfer arholiadau Ionawr yw 8 Rhagfyr 2022.
Dyma'r dyddiadau ar gyfer arholiadau'r Haf 2023:
Lefel | Dyddiad |
Mynediad Haf (Dydd) | Dydd Mercher, 14/06/2023 |
Mynediad Haf (Nos) | Nos Iau, 15/06/2023 |
Sylfaen | Dydd Gwener, 23/06/2023 |
Canolradd | Dydd Gwener, 16/06/2023 |
Uwch | Dydd Mercher a Dydd Iau, 21/06/2023 a 22/06/2023. |
Y dyddiad cau ar gyfer arholiadau’r Haf yw 1 Mawrth 2023.
Os dych chi’n dysgu ar un o gyrsiau Cymraeg Gwaith, mae’r arholiadau yn cael eu cynnig am ddim eleni.
Llyfrynnau i ymgeiswyr 2023
Mae'r cymwysterau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol. Mae'n bosib ennill y cymwysterau trwy sefyll arholiad ar ddiwrnod penodol. Mae'r arholiadau yn agored i oedolion sy wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith neu sy wrthi'n dysgu ar hyn o bryd.
Mae'r cymwysterau yn addas i bobl sy'n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle. Does dim rhaid bod mewn dosbarth i sefyll arholiad na bod wedi sefyll arholiad is yn gyntaf.
Mae'r fframwaith yn y tabl isod yn dangos sut mae'r cymwysterau yn perthyn i'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol ac i fframwaith ALTE/Fframwaith Cyfeirio Ewrop.
Cymhwyster | Lefel yn y fframwaith | Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop |
---|---|---|
Mynediad | Mynediad | A1 |
Sylfaen | 1 | A2 |
Canolradd | 2 | B1 |
Uwch | 3 | B2 |