Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
Work Welsh logo

CYRSIAU BLASU AR-LEIN

Gallwch chi ddechrau dysgu Cymraeg trwy ddilyn y cyrsiau blasu ar-lein yma.  Maen nhw’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd ac maen nhw ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim.  Mae rhai cyrsiau wedi eu teilwra ar gyfer gwahanol sectorau, er enghraifft Iechyd a Gofal.

Mae mwyafrif y cyrsiau yn cynnwys 10 uned yr un (tua 10 awr o ddysgu), ac maent wedi'u rhannu'n Rhan 1 (5 uned, tua 5 awr) a Rhan 2 (5 uned, tua 5 awr).

Mae’n rhaid mewngofnodi neu greu cyfrif i ddechrau cwrs, proses hawdd iawn (dewiswch ‘Arall’ yn y ddewislen wrth greu cyfrif).Mae croeso i chi e-bostio swyddfa@dysgucymraeg.cymru os oes angen mwy o wybodaeth.

Pob hwyl gyda’r dysgu!

Adnoddau Digidol

Mae’r adnoddau yn cyd-fynd â gwerslyfrau Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch 1, 2 a 3. Nodwch os gwelwch yn dda mai nid cwrs yw’r adnoddau hyn.

Yn galw cyflogwyr!

Cofrestrwch eich sefydliad yma er mwyn i'ch cyflogeion ddechrau dysgu gyda Cymraeg Gwaith!