Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr Cymraeg Gwaith 2020: Cyflogwr y Flwyddyn

ENILLYDD: Grŵp Colegau NPTC

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn rhan o’r cynllun Addysg Bellach Cymraeg Gwaith ers 2017, gydag oddeutu 850 aelod o staff yn dilyn hyfforddiant Cymraeg. Bu’r Tîm Gweithredol a’r Tîm Uwch-Reoli yn gefnogol iawn o’r dechrau, gan annog staff i ymuno â’r cynllun, gyda Phenaethiaid Ysgolion yn amserlennu gwersi o gwmpas anghenion staff er mwyn sicrhau presenoldeb uchel yn y gwersi. Mae’r staff hefyd wedi cael eu hannog i fynychu gwersi preswyl Cymraeg Gwaith, yn ogystal â gwersi amser cinio a gyda’r nos. Yn 2018, llwyddodd y Coleg i sicrhau bod 83% o’r staff yn cwblhau’r Cwrs Croeso ar-lein, ac mae’r cwrs hwnnw erbyn hyn yn rhan o brosesau anwytho a rhaglenni arfarnu staff y grŵp. Mae’r holl staff ar draws y campysau bellach yn cyfarch a defnyddio brawddegau Cymraeg yn hyderus.

nptc

2il: Elfennau Gwyllt

Mae Elfennau Gwyllt yn un o’r cyflogwyr sy’n derbyn gwersi dwys fel rhan o’r cynllun Cymraeg Gwaith yn y Gogledd Orllewin. Mae cynyddu darpariaeth, cyfathrebu a rhaglenni Cymraeg yn un o amcanion strategol Elfennau Gwyllt, ac mae’r tîm wedi gweithio’n galed iawn i ddatblygu’r Gymraeg ar draws y sefydliad dros y 18 mis diwethaf. Mae 11 o’r tîm yn derbyn pedair awr o wersi Cymraeg dwys yn wythnosol, gyda’r staff hynny’n gweld cynnydd mawr yn eu sgiliau a’u hyder yn y Gymraeg. Mae Elfennau Gwyllt wedi cyflogi mwy o staff sydd â sgiliau Cymraeg, ac maent yn gallu darparu cyrsiau i’r gymuned trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chynnig cymwysterau ysgrifenedig yn y Gymraeg.  Mae’r sefydliad wedi datblygu gwefan ddwyieithog, a gwelliannau cyffredinol i’r cynnig gwasanaeth ddwyieithog; bellach gall Elfennau Gwyllt hefyd ymateb i ymholiadau cyffredinol yn y Gymraeg.

3ydd: Admiral 

Mae Admiral wedi bod yn cefnogi 30 aelod o staff i ddilyn gwersi dwys fel rhan o’r cynllun Cymraeg Gwaith. Mae’r aelodau hyn yn delio gyda’r cyhoedd yng Nghaerdydd ac Abertawe, a’r nod yw ehangu’r gronfa o weithwyr sy’n gallu siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid. Ymfalchïa Admiral ei fod yn gwmni Cymreig, ac yn ôl y cyflogwr, mae Cymraeg Gwaith wedi bod yn gyfle gwych i’w staff ddatblygu eu sgiliau. Yn ogystal â chefnogi’r dysgwyr i fynychu gwersi yn ystod oriau gwaith, mae Admiral yn anfon e-bost ‘Gair yr Wythnos’ at weithwyr, a bydd hwn yn cael ei ddatblygu’n blatfform ar-lein. Eleni, lansiwyd Cymuned Gymraeg yn Admiral, gyda siaradwyr yn cael eu cynnwys mewn cymuned a rhestr ddosbarthu ar-lein. Mae’r Gymuned wedi cyfarfod sawl gwaith ac wedi cefnogi gweithgareddau allgyrsiol, megis Dydd Miwsig Cymru, pan drefnwyd set byw gan y cerddor Al Lewis yn adeilad Tŷ Admiral, Caerdydd.