Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr Cymraeg Gwaith 2020: Dysgwr sydd wedi gwneud y cynnydd gorau ar lefel Canolradd neu uwch

ENILLYDD: Sarah Childs, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Coleg Ceredigion)

Mae Sarah yn dysgu Cymraeg ar gynllun Addysg Bellach Cymraeg Gwaith yng Ngholeg Ceredigion ers 2017. O’r dechrau, roedd Sarah o ddifri’ am ddatblygu ei sgiliau Cymraeg, ac mae’n serennu gan fod ei Chymraeg wedi blodeuo cymaint. Bu Sarah yn gwneud y filltir ychwanegol trwy ddarllen llyfrau Cymraeg a defnyddio’r cyfryngau Cymraeg. Bu’n annog ei chydweithwyr i weithio gyda hi ar ei Chymraeg, gan fanteisio ar unrhyw gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith – boed gyda staff neu fyfyrwyr. Llwyddodd gyda rhagoriaeth yn ei harholiad Cymraeg, a phenderfynodd weithio tuag at ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith. Gall ymdrin ag adroddiadau a gwaith papur yn hyderus yn y ddwy iaith, yn ogystal â defnyddio’i Chymraeg gydag eraill yn gwbl naturiol. Mae hi’n batrwm ac ysbrydoliaeth i aelodau eraill o’r staff.

Sarah Childs

2il: Jenny Adams, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Uwch (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Mae Jenny yn dysgu Cymraeg trwy gynllun Addysg Uwch Cymraeg Gwaith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Cafodd Jenny ei swyno a’i hysbrydoli’n llwyr gan y Gymraeg ac mae ei chynnydd wedi bod yn arbennig. Mae ei sgiliau llafar yn ardderchog, ac mae hi’n gweithio’n galed a diwyd i gryfhau ei dealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg. Bu Jenny ar gwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn, lle cafodd gymaint o argraff nes iddi gael ei henwebu ar gyfer gwobr ‘Dysgwr y Flwyddyn’ Eisteddfod Genedlaethol 2019. Ar ôl dim ond ambell flwyddyn o ddysgu Cymraeg, mae Jenny yn siarad yn hyderus ac yn defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’i bywyd personol a phroffesiynol. Mae’n e-bostio a siarad Cymraeg gyda chydweithwyr a myfyrwyr, ac mae wedi arwain ymweliadau ysgolion drwy gyfrwng y Gymraeg.

3ydd: Matthew Jones, Dysgwr ‘Dysgu’ Cymraeg Gwaith (Cyngor Sir Ddinbych)

Mae Matthew yn dysgu Cymraeg trwy ddilyn gwersi dwys Cymraeg Gwaith a gynhelir i staff Cyngor Sir Ddinbych. Mae’n ddysgwyr cryf iawn, sydd wedi gwneud cynnydd da, ac mae’n gwneud ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth – yn enwedig yn y gwaith. Gwelir Matthew yn gwneud ymdrech ychwanegol i gyfathrebu drwy’r Gymraeg, yn arbennig wrth ddelio gyda chynghorwyr eraill. Mae’n hyderus i gyfathrebu gyda’r cyhoedd yn y Gymraeg yn rhinwedd ei swydd, ac mae wedi gwneud cyfweliadau radio a chyfweliadau newyddiadurol eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae Matthew yn dangos ymroddiad uchel a chaiff bleser mawr wrth ddefnyddio’i sgiliau Cymraeg. Mae’n llawn hyder wrth ddefnyddio’r iaith.