ENILLYDD: Mariolina Lai, Dysgwr Cymraeg Gwaith Cyngor Ceredigion
Mae Mariolina wedi bod yn dysgu Cymraeg drwy Gynllun Cymraeg Gwaith Cyngor Ceredigion ers 2018, ac mae bellach ar lefel Canolradd ac yn parhau i wneud cynnydd arbennig. Daw Mariolina o’r Eidal yn wreiddiol, ac allan o gariad a pharch at y diwylliant Cymraeg, fe dyngodd lw ei dinasyddiaeth Brydeinig drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae astudio’r Gymraeg yn llawenydd i Mariolina. O’r wers gyntaf, ymhyfrydodd yn yr iaith, a daw i bob gwers yn frwdfrydig gan godi hwyliau’r dosbarth yn wythnosol. Mae Mariolina hefyd yn cymryd mantais o weithgareddau anffurfiol y Cynllun, megis y Clwb Cinio. A hithau’n Gynorthwyydd Gofal Dydd, mae llwyddiannau Mariolina i ddysgu’r Gymraeg yn bellgyrhaeddol eu dylanwad, ac mae’n sicrhau gofal o’r safon flaenaf i drigolion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith wedi galluogi Mariolina i wireddu ei huchelgais o fyw yn y Gymraeg, a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.