ENILLYDD: Kris Davies, Dysgwr Cwrs Hunan-astudio Ar-lein Estynedig Cymraeg Gwaith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Kris wedi bod yn dilyn cwrs newydd, arloesol Cymraeg Gwaith – Cwrs Hunan-astudio Ar-lein Estynedig – ar lefel Mynediad ers mis Tachwedd 2020. Mae Kris wedi gwneud cynnydd arbennig mewn cyfnod mor fyr. Mae Kris wedi mynd ati i wneud dysgu digidol yn rhan o’i daith iaith ddyddiol, ac wedi mantesio i’r eithaf ar y gefnogaeth sydd ar gael trwy’r cynllun Cymraeg Gwaith, gan fynychu sesiynau adolygu a sesiynau sgwrsio yn rheolaidd. Mae’n rhyfeddol bod Kris bellach yn defnyddio’i sgiliau newydd i sgwrsio’n naturiol yn Gymraeg.