ENILLYDD: Matt Nash, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Grŵp Llandrillo-Menai)
Mae Matt yn awyddus iawn i ddefnyddio’r Gymraeg yn ei fywyd bob dydd yn ogystal ag yn y gweithle. Mae wedi gwneud cynnydd arbennig ac yn gallu cynnal sgwrs sylweddol a heriol yn y Gymraeg erbyn hyn. Cymerodd ran blaenllaw mewn noson gymdeithasol ‘Hwyl yr Ŵyl’ gan ganu carol heriol yn y Gymraeg – roedd pawb yn dweud mai dyma oedd uchafbwynt y noson. Mae parodrwydd Matt i berfformio yn y Gymraeg i gynulleidfa fawr ar Zoom yn ysbrydoliaeth i gydweithwyr, ac mae’n haeddu clod am ymroi i ddefnyddi’r Gymraeg yn ei fywyd proffesiynol.