Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr Cymraeg Gwaith 2020: Dysgwr sydd wedi gwneud y cynnydd gorau ar lefel Mynediad neu Sylfaen

ENILLYDD: Sacha Baber, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Coleg Penybont)

Mae Sacha yn dysgu Cymraeg drwy gynllun Addysg Bellach Cymraeg Gwaith yng Ngholeg Penybont ers i’r cynllun ddechrau yn y sector. Mae Sacha yn arbennig gan ei bod wedi llwyddo sicrhau bod defnydd o’r Gymraeg yn ei dosbarthiadau wedi cynyddu, gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio’u Cymraeg. Bu Sacha yn cyfarfod gyda’i thiwtor yn wythnosol ar gyfer sesiynau mentora un i un er mwyn ymarfer ei Chymraeg, a thrafod sut i ymgorffori’r Gymraeg i’w maes dysgu. Derbyniodd ganmoliaeth uchel ac adborth arbennig ar ei gwersi, gan gynnwys y modd y mae hi’n cynhyrchu adnoddau dwyieithog (megis rhestrau terminoleg), yn defnyddio’r Gymraeg, ac yn creu cyfleoedd i’w myfyrwyr. Mae wedi gweithio’n raddol i sicrhau ystafell ddosbarth gydag arddangosfeydd cwbl ddwyieithog, a hi yw’r tiwtor cyntaf yn y coleg i ddechrau dysgu modiwl cyfan yn ddwyieithog.

Sacha Baber

Clod Uchel i:

  • Sam Owen, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Grŵp Colegau NPTC)
  • Abigail Williams, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Uwch (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
  • Jenny Williamson, Dysgwr ‘Dysgu’ Cymraeg Gwaith (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
  • Julia Davies, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Coleg Sir Benfro)

Derbyniwyd nifer fawr o enwebiadau o safon uchel iawn ar gyfer y wobr ‘Dysgwr sydd wedi gwneud y cynnydd gorau ar lefel Mynediad a Sylfaen’, oedd yn sialens fawr i’r Panel Dyfarnu. Oherwydd hynny, ni allwyd dewis unigolion ar gyfer yr ail a’r drydedd safle, ond roedd y Panel yn awyddus iawn i roi clod uchel a sylw haeddiannol i’r pedwar dysgwr uchod. Mae Sam, Abigail, Jenny a Julia yn ddysgwyr arbennig sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu cynnydd sylweddol yn y Gymraeg. Maent yn ddysgwyr brwdfrydig tu hwnt, yn sicrhau presenoldeb uchel mewn gwersi, yn gyson ymdrechu i ddefnyddio’u Cymraeg yn y gweithle, yn mwynhau defnyddio adnoddau ar-lein dysgucymraeg.cymru i gefnogi eu dysgu, ac yn mynd y tu hwnt i’r gwersi gyda’u hymdrechion i ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau Cymraeg newydd. Llongyfarchiadau i’r pedwar ohonoch!