Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr Cymraeg Gwaith 2020: Dysgwr lefel Sylfaen+ sy'n gwneud y Defnydd Gorau o'r Gymraeg yn y Gweithle

ENILLYDD: Eva Huw, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Uwch (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Mae Eva wedi bod yn dysgu Cymraeg ers sawl blwyddyn ac erbyn hyn yn dilyn cynllun Addysg Uwch Cymraeg Gwaith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, gan gynnwys mynychu cwrs preswyl 5 diwrnod yn Nant Gwrtheyrn. Mae hi’n gweithio i Wasanaethau Cynadledda’r Brifysgol, ac mae hi bellach yn defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu gyda chleientiaid dros y ffôn, e-bost, ac mewn cyfarfodydd. Mae hi’n gwisgo bathodyn ‘Cymraeg’ drwy’r amser, ac yn darparu gwasanaeth dwyieithog mewn digwyddiadau gan sicrhau bod yr holl ddeunyddiau yn ddwyieithog, gan gynnwys y cyhoeddiadau a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n ymdrechu i siarad Cymraeg gyda dysgwyr, yn annog eraill i ddysgu Cymraeg, ac yn cefnogi mentrau’r Tîm Cymraeg e.e. nosweithiau cymdeithasol i ddysgwyr.

Eva

2il: Laura Main, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Coleg Sir Gâr)

Mae Laura yn dysgu Cymraeg drwy gynllun Addysg Bellach Cymraeg Gwaith yng Ngholeg Sir Gâr. Mae hi ar hyn o bryd yn dysgu ar lefel Sylfaen ac wedi magu llawer iawn o hyder dros y misoedd diwethaf. Mae hi’n gwneud ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle pob dydd drwy sgwrsio gyda staff eraill yn Gymraeg, yn ogystal ag ymdrechu i siarad Cymraeg gyda myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Mae Laura yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn siarad Cymraeg gyda staff swyddfa a gofalwyr, a’u bod nhw’n hapus i siarad Cymraeg gyda hi hefyd. Mae staff eraill wedi sylwi ar y newid ynddi, ac yn yr ymdrech mae’n ei roi i gynnig ar siarad Cymraeg bob tro. Yn ogystal â hynny, mae hi’n ysbrydoli ei chyd-weithwyr ac yn eu hannog nhw i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i brwdfrydedd di-hafal.

3ydd: Michelle Matthews, Dysgwr Cymraeg Gwaith Iechyd (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)

Mae Michelle yn dysgu Cymraeg drwy gynllun Iechyd Cymraeg Gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hi’n gweithio mewn Adran Radioleg, a hi sy’n ymdrin yn bennaf gydag ymholiadau cleifion dros y ffôn.  Mae Michelle wedi achub ar bob cyfle i ddysgu’r Gymraeg, ac mae wedi mynychu cyrsiau preswyl gyda’r cynllun yn Nant Gwrtheyrn. Trefnodd Michelle nifer o weithgareddau i hybu’r Gymraeg o fewn ei hadran e.e. cystadleuaeth Gwisg Gymreig ac addurno drysau, desgiau a derbynfeydd i ddathlu Dydd Santes Dwynwen, gan annog adrannau Radioleg eraill y Bwrdd i gymryd rhan. Michelle sy’n gyfrifol am newyddlen yr adran, ac mae’n sicrhau bod colofn wedi’i neilltuo i’r Gymraeg – boed yn wers, geirfa ddefnyddiol, newyddion neu anogaeth. Bu Michelle hefyd yn aelod o banel holi ac ateb ar stondin y Bwrdd Iechyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lle defnyddiodd ei Chymraeg yn hyderus.