Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwobr Cymraeg Gwaith 2020: Tiwtor y Flwyddyn

ENILLYDD: Faith Owen, Tiwtor ‘Dysgu’ Cymraeg Gwaith (Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain)

Mae Faith yn diwtor ar gyrsiau dwys Cymraeg Gwaith yn y Gogledd Ddwyrain – mae aelodau staff Yr Eglwys yng Nghymru, Cyllid a Thollau EM, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei dosbarth. Derbyniodd Faith sawl enwebiad ar gyfer y wobr yma. Yn ôl ei dysgwyr, mae Faith yn diwtor egnïol, byrlymus ac angerddol sy’n sicrhau bod y gwersi yn hwyl a bod dysgu Cymraeg yn bleser. Un elfen sy’n sefyll allan am Faith ydy ei bod yn sicrhau bod cynnwys y gwersi yn berthnasol i’r byd gwaith, gan deilwra a chreu adnoddau penodol e.e. dysgu ac ymarfer ystod o wasanaethau’r eglwys i staff Yr Eglwys yng Nghymru, gan arwain at un o’r dysgwyr yn priodi cwpl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Faith Owen, Tiwtor Cymraeg Gwaith

2il: Non Lewis-Edwards, Tiwtor Camau a Chynllun Gofal Cymraeg Gwaith, a Camau (Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain)

Mae Non yn diwtor sy’n dysgu’r Gymraeg fel rhan o ddau gynllun Cymraeg Gwaith yn y Gogledd Ddwyrain. Mae hi’n diwtor ar y cynllun Camau (ar gyfer ymarferwyr y Sector Gofal ac Addysg Blynyddoedd Cynnar) a’r cynllun Gofal (y sector Gofal Cymdeithasol), sy’n golygu ei bod yn gweithio gydag ystod eang o gyflogwyr. Derbyniodd Non nifer o enwebiadau ar gyfer y wobr yma. Yn ôl ei dysgwyr, mae Non yn diwtor bendigedig sy’n annog a chefnogi’r dysgwyr yn arbennig o dda, a bob tro yn amyneddgar a chadarnhaol. Mae’r gwersi’n amrywiol ac yn ysbrydoledig, ac mae Non yn sicrhau bod hyder pob un o’r dysgwyr yn codi, dim ots beth fo’u lefel. Mae hi hefyd yn cynnig gwersi ychwanegol i baratoi dysgwyr at arholiadau, ac mae’n teilwra’r cynnwys i anghenion ei dysgwyr fel bod modd iddynt ddefnyddio eu sgiliau gwaith yn ddyddiol yn y gweithle.

3ydd(a): Heledd Smith, Tiwtor Cymraeg Gwaith Addysg Bellach (Coleg Penybont)

Mae Heledd yn diwtor ar gynllun Addysg Bellach Cymraeg Gwaith ac yn gweithio yng Ngholeg Penybont. Mae Heledd wedi bod yn diwtor ar nifer o aelodau staff Coleg Penybont, gan sicrhau bod pob un yn gwneud cynnydd, gyda chanran uchel o’r dysgwyr yn nodi eu bod yn defnyddio mwy o’r Gymraeg ers mynychu ei gwersi. Yn ôl yr enwebwyr, mae angerdd Heledd yn sicrhau bod y Gymraeg yn lledaenu ar draws y Coleg, ac mae ei gwersi yn hwyl, diddorol a chreadigol.

3ydd(b): Huw Owen, Tiwtor Cymraeg Gwaith (Cyngor Sir Ceredigion)

Mae Huw Owen yn diwtor Cymraeg Gwaith yng Nghyngor Sir Ceredigion. Ar hyn o bryd, mae Huw yn tiwtora 86 o weithwyr, ac fe dderbyniodd nifer o enwebiadau gan ei ddysgwyr. Yn ôl ei ddysgwyr, mae Huw yn ymdrechu’n galed i deilwra adnoddau addas i’r gweithle, ac yn cynnal awyrgylch gadarnhaol a hwyliog yn y gwersi. Mae hefyd yn trefnu gweithgareddau allgyrsiol yn y gweithle, megis Clwb Cinio a digwyddiadau diwylliannol er mwyn rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr ymarfer defnyddio eu sgiliau Cymraeg.