Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn (lefel Mynediad)
Robert Easton – Enillydd Gwobr Cymraeg Gwaith Lefel Mynediad
Ymunodd Rob â’r cynllun Cymraeg Gwaith yn ôl yn 2019/20, trwy ei gyflogwr, Coleg Llandrillo Menai. Roedd wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol ac er ei fod yn cofio dipyn ac yn byw mewn ardal ddwyieithog efo’i bartner sy’n siarad Cymraeg, doedd gan Rob ddim hyder i siarad Cymraeg ei hun.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae Cymraeg Rob wedi gwella cymaint nes ei fod bellach yn teimlo’n hyderus i holi myfyrwyr os ydyn nhw yn gallu siarad Cymraeg, gan gynllunio trafodaethau proffesiynol gyda nhw trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth iddo ddatblygu’i sgiliau Cymraeg ei hun, mae Rob wedi bod yn annog y myfyrwyr i wneud yr un peth.
Mae Rob yn gefnogol iawn o ddysgwyr eraill yn y grŵp ac yn eu helpu wrth iddyn nhw gyflwyno patrymau iaith newydd. Mae gan Rob bersonoliaeth hoffus iawn ac mae hyn wastad yn helpu dysgwyr eraill i ymlacio a rhoi cynnig ar siarad yn y dosbarth.
Robert Easton
Grŵp Llandrillo Menai
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn (lefel Sylfaen)
Fiona Hennah - Enillydd Gwobr Cymraeg Gwaith Lefel Sylfaen
Mae Fiona yn ddarlithydd Gwyddoniaeth yng Ngholeg y Cymoedd ac yn astudio ar y rhaglen Mynediad at Addysg Uwch. Mae hi yn ei hail flwyddyn o Gymraeg Gwaith (lefel Sylfaen 1) ac mae hi wedi gwneud llawer o gynnydd ers cychwyn.
Yn y gwaith, mae hi’n mantesio ar bob cyfle i siarad Cymraeg ac mae hi’n annog myfyrwyr i ddysgu Cymraeg hefyd. Mae hi’n cynnwys y Gymraeg yn ei hadnoddau dysgu ac yn rhoi adborth yn ddwyieithog ar waith ei myfyrwyr.
Tu allan i’r gwaith, mae hi’n siarad Cymraeg pob cyfle posibl. Mae hi’n siarad Cymraeg gyda rhai o’i theulu ac yn darllen a chanu yn Gymraeg gyda’i nithoedd.
Fiona Hennah
Coleg Y Cymoedd
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn (lefel Canolradd)
Angelina Mitchell - Enillydd Gwobr Cymraeg Gwaith Lefel Canolradd
Yn wreiddiol o’r Iseldiroedd, roedd Angelina yn gallu siarad pump iaith erbyn iddi adael yr ysgol - sef Iseldireg, Iseldireg Losaxon, Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg.
Ar ôl cwrdd â’i phartner, sy’n Gymro Cymraeg yn yr Iseldiroedd, symudodd y ddau i Gymru i fyw. Cafodd swydd gyda chwmni hyfforddi ACT yng Nghaerdydd, a dyna pryd y penderfynodd ddysgu Cymraeg.
Cychwynnodd ar y cwrs blasu ar-lein ‘Croeso Cymraeg Gwaith’ yn 2019, ac ers hynny mae wedi bod ar amryw o gyrsiau, gan gynnwys y cwrs dwys ‘Defnyddio Cymraeg Gwaith’ ar lefel canolradd gyda Nant Gwrtheyrn.
O ganlyniad, mae ACT nawr yn gallu cynnig cyrsiau dysgu digidol a chyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Angelina Mitchell
ACT Training
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn (lefel Uwch+)
Mark Butler - Enillydd Gwobr Cymraeg Gwaith Lefel Uwch+
Mae Mark yn Swyddog Gwybodaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2018. Daw Mark yn wreiddiol o Ramsgate, ond symudodd ei deulu i ardal Wrecsam pan oedd o’n blentyn bach. Mae’n dal i gofio’r wefr o glywed a chael dysgu’r Gymraeg pan oedd o yn yr ysgol gynradd, ond mynychodd ysgol uwchradd yn Lloegr. Cafodd ei ysbrydoli i ddechrau dysgu Cymraeg eto pan ddechreuodd ei fab yn yr ysgol, a bellach mae o wedi cyrraedd lefel Uwch.
Er nad yw gwaith Mark ar y rheng flaen, mae’n benderfynol o wneud gwahaniaeth. Sylwodd Mark fwlch yn y ddarpariaeth o adroddiadau safonol dwyieithog mae’r Adran Wybodaeth yn eu cyhoeddi’n fewnol, ac mae wedi dechrau ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno fersiynau dwyieithog i’w defnyddio ar gyfer adroddiadau awtomataidd.
Mark Butler
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Tiwtor Cymraeg Gwaith y Flwyddyn
Dr Lois Slaymaker-Jones – Tiwtor Cymraeg Gwaith y Flwyddyn
Mae Lois yn diwtor ar y Cynllun Cymraeg Gwaith Addysg Betllach / Addysg Uwch gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant. Yn ôl un o’r dysgwyr yn ei dosbarth:
“Mae’n bleser dysgu Cymraeg gyda Lois. Mae’n egluro pethau’n glir ac yn rhannu amryw o syniadau i’n helpu i gofio rheolau gramadegol.
“Mae Lois yn amlwg yn diwtor brofiadol ac yn gwybod pryd mae’n ddefnyddiol i ni adolygu rhywbeth a phan mae’n iawn symud ymlaen, fel ein bod wastad yn gweld cynnydd. Mae’n cynnig dulliau gwahanol o ddysgu er mwyn sicrhau fod pawb yn deall a fod pethau’n aros yn ein cof. Mae ein dosbarthiadau yn fywiog, rhyngweithiol ac effeithiol.
“Dwi’n hapus i wthio fy hun gan nad ydy Lois byth yn gwneud i mi deimlo’n wirion os ydw i’n gwneud camgymeriad ond yn hytrach yn egluro os nad ydy rhywbeth yn hollol gywir, fel y gallaf ddysgu a chofio.”
“Mae Lois yn garedig a chwrtais, ac yn athrawes sy’n ein parchu a’n hannog. Dw i’n edrych ymlaen at fy ngwersi gyda hi gan ei bod wedi creu awyrgylch sydd wir yn gefnogol a chroesawgar.
“Diolch iddi hi, dwi’n gobeithio y byddaf yn fuan ddigon hyderus i newid fy statws i ‘Siaradwr Cymraeg’, yn ystyried fy hun yn ddwyieithog ac yn helpu i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.”
Lois Slaymaker-Jones
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Cyflogwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn
Cyfoeth Naturiol Cymru – Enillydd Categori Cyflogwr Cymraeg Gwaith y flwyddyn
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi manteisio tipyn ar gynllun Cymraeg Gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, o gyrsiau blasu ar-lein i wersi preswyl yn Nant Gwrtheyrn.
Eleni, mae tua 150 o staff wedi cofrestru ar gyfer gwersi Dysgu Cymraeg. Maen nhw’n cael mynychu cyrsiau yn ystod oriau gwaith ac mae sesiynau adolygu yn cael eu trefnu dros wyliau’r haf.
Maent hefyd yn cynnig cynllun mentora. Yn y cynllun, mae’r dysgwr yn cael ei baru gyda dysgwr profiadol neu siaradwr rhugl, ac yn cael cyfle i adolygu gwersi a sgwrsio yn Gymraeg.
Mae CNC yn defnyddio rhaglen Yammer i hybu sgwrsio anffurfiol rhwng dysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
Gan fod CNC yn cynnig gwasanaethau dwyieithog yn y gymuned, maent yn teimlo ei bod yn bwysig cefnogi staff i gyflawni hyn ac maent yn annog eu holl staff i ddechrau pob sgwrs neu ohebiaeth yn y Gymraeg.
Enillydd Cyflogwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn
Cyfoeth Naturiol Cymru