I gymryd rhan, mae’n rhaid i siaradwyr a dysgwyr gwblhau’r ffurflen syml sydd ar gael isod.
Unwaith i chi gael eich paru byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau hynny ac i’ch cyflwyno i’ch partner Siarad. Efallai y byddwn yn cymryd ychydig o amser i ddarganfod y partner sy’n addas i chi, ond byddwn yn cysylltu ar unwaith pan fydd hyn wedi digwydd. Byddwch yn gallu cytuno gyda’ch gilydd pa mor aml dych chi’n cwrdd ac am ba hyd. Os dych chi eisiau newid eich partner Siarad am unrhyw reswm, mae’n bosib i chi wneud hynny ar unrhyw adeg.
I sicrhau diogelwch pawb sy’n cymryd rhan yn y cynllun, dilynwch y canllawiau hyn os gwelwch yn dda. Dych chi’n cymryd rhan yn y gweithgaredd yma ar eich risg eich hun, ac mae disgwyl i chi gymryd pob gofal. Cysylltwch â’ch darparwr Dysgu Cymraeg lleol os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon gyda chi. Byddan nhw’n gallu eich helpu.
Wrth gofrestru, dych chi’n cytuno i ni ddefnyddio eich data i gadw mewn cysylltiad gyda chi ac i’ch darparwr cwrs lleol i rannu eich cyfeiriad e-bost a’ch enw cyntaf gyda’r partner Siarad. Dim ond eich cyfeiriad e-bost a’ch enw cyntaf fydd yn cael ei rannu gyda’r person sy wedi’i baru gyda chi. Mae’n rhaid bod dros 18 i gymryd rhan, ac mae’n helpu os dych chi’n hoffi ‘siarad’!
Os dych chi’n siaradwr Cymraeg neu’n ddysgwr ar lefel Canolradd, Uwch neu Loywi, cliciwch ar y ddolen berthnasol isod: