Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Hunan-astudio gyda Chefnogaeth

Dysgu Annibynnol Ar-lein gyda Chefnogaeth Tiwtor
Hunan-astudio gyda Chefnogaeth

Dyma gyfle i ddysgu yn annibynnol ar-lein. Mae hyn yn golygu y galli di ddilyn unedau'r cwrs ar dy gyflymder dy hun, ac ar amser sy'n gyfleus i ti. Bydd modd i ti gael mynediad at y cwrs unrhyw bryd, unrhyw le, gan ddefnyddio dy ffôn, llechen, neu gyfrifiadur (dim ond bod gen ti gyswllt gwe).

Yn ogystal â dilyn unedau hunan-astudio ar-lein, mae cefnogaeth tiwtor ar gael ar gyfer y cyrsiau yma. Mae hyn yn golygu y byddi di'n cael gwahoddiad i ymuno gyda sesiynau adolygu rhithiol, a sesiynau sgwrsio rhithiol. Mae'r cyfleoedd yma'n opsiynol. Bydd modd i ti hefyd gysylltu â thiwtor os oes gen ti gwestiwn am gynnwys y cwrs, a gall tiwtor roi adborth i ti ar dy dasgau.

Mae'r math hwn o gwrs ar gael ar lefel Mynediad, Sylfaen, a Chanolradd. Mae pob lefel yn cymryd tua 120 awr o ddysgu i gwblhau.

 

Codi Hyder i Ddefnyddio
Dangos Diddordeb

Eisiau'r manylion diweddaraf am unrhyw gyfleoedd newydd? Llenwa'r ffurflen isod i gofrestru dy ddiddordeb. Byddwn yn anelu at ddarparu cyfleoedd newydd ar sail y wybodaeth byddwn yn casglu, felly cofia roi cymaint o wybodaeth â phosib er mwyn i ni allu cynnig yr hyn sydd fwyaf addas i ti.

Dangos Diddordeb