Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Lefelau dysgu

Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd

Mae’r cyrsiau Dysgu Cymraeg yn cyd-fynd â lefelau dysgu Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR).  

Pwrpas y CEFR yw dangos sut mae symud o fod yn ddechreuwr, sy’n gallu sgwrsio yn syml, i fod yn siaradwr rhugl, sy’n defnyddio’r Gymraeg yn hyderus.

Dilynwch y ddolen isod, sy’n cynnig mwy o wybodaeth am y CEFR:

Tabl - Lefelau dysgu Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)

Cliciwch ar y teitlau isod i ddarllen am bob lefel, a chliciwch ar y trionglau i ddod o hyd i gwrs ar y lefel yna.

Mynediad

Cyrsiau ar gyfer dechreuwyr; bydd cyfle i ddysgu siarad am bynciau pob dydd fel eich gwaith, y teulu, ffrindiau a diddordebau.

Sylfaen

Mae'r lefel yma yn adeiladu ar lefel Mynediad ac yn dysgu holl batrymau sylfaenol y Gymraeg.

Canolradd

Yn addas ar gyfer pobl sy'n gyfarwydd gyda phrif batrymau'r Gymraeg. Mae mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando ar y lefel yma.

Uwch

Bydd cyfle i drafod pob math o bynciau a themâu ar y lefel yma. Y prif nod yw creu siaradwyr hyderus. Mae cyrsiau Uwch 1, Uwch 2 ac Uwch 3 ar gael.

Gloywi

Mae'r cyrsiau yma, sy'n addas ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr Cymraeg, yn cael eu teilwra ar gyfer anghenion y dosbarth. Gall y cyrsiau ganolbwyntio ar sgiliau llafar neu ysgrifenedig.

Mynediad

Canolradd (fersiwn y De)

Sylfaen

Uwch (fersiwn y de)