Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Eisiau dysgu Cymraeg?
Croeso

"Mae Penaethiaid y Tîm yng Nghymru wedi cydweithio â Places for Growth yn Swyddfa'r Cabinet, Sgiliau’r Llywodraeth, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i lansio cyfle dysgu gwych i Wasanaeth Sifil y DU.

Mae Gweision Sifil ledled y DU bellach yn gallu dysgu Cymraeg am ddim drwy wefan Dysgu’r Gwasanaeth Sifil.

Mae astudiaethau’n dangos bod dysgu iaith newydd yn gallu bod o fudd mawr.  Mae’n gyfle i drochi eich hun mewn diwylliant gwahanol, gan greu cysylltiadau gwerth chweil gyda’ch cydweithwyr.  Mae hefyd yn gyfle i ymarfer eich sgiliau newydd gartref ac yn eich cymuned.

Mae’r broses o ddysgu iaith newydd yn gallu bod yn brofiad arbennig.  Mae’n gallu rhoi hwb i’ch hyder, a gwella eich sgiliau cyfathrebu."

Croeso
Quote

Newyddion Gwych! Fel Ysgrifennydd Parhaol dros Gymru, ac fel dysgwr fy hun, dw i’n falch iawn bod Gweision Sifil bellach yn gallu dysgu Cymraeg ar-lein, a hynny am ddim drwy borth Dysgu’r Gwasanaeth Sifil.

Mae’r cynllun hwn yn ategu ein hymrwymiad i hyrwyddo’r Gymraeg, a sicrhau bod yr iaith yn bresennol ar draws holl adrannau’r Llywodraeth – gan gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dame Antonia Romeo DCB | Ysgrifennydd Parhaol, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac Ysgrifennydd Parhaol Hyrwyddwr Lleoedd Cymru.

Quote

Tro cyntaf?

I ddechrau, dych chi angen creu cyfrif.  Ar ôl creu cyfrif, bydd tudalen ‘Fy Nysgu’ yn agor i chi. Yno, byddwch chi’n gallu dod o hyd i’ch cyrsiau chi yn gyflym.

Ar ôl cofrestru, ewch yn ôl i dudalen Lanio'r Gwasanaeth Sifil, dilyn y ddolen, cyn dod yn ôl i’r dudalen hon, er mwyn gweld yr holl gyrsiau sy am ddim i Weision Sifil. 

Os dych chi angen cymorth, beth am ffonio neu e-bostio ni?

📞 0300 323 4324

📧 swyddfa@dysgucymraeg.cymru

Croeso: Am fod iaith yn fwy na geiriau

Cwrs Croeso

Geiriau a chyfarchion syml i bobl sy’n newydd i’r Gymraeg.

Cychwynnwch eich taith iaith yma.

Dewiswch y botwm isod am fwy o wybodaeth.

Cwrs blasu

Mae Cwrs Blasu Rhan 1 a Rhan 2 ar gael.

Dewiswch y botwm isod am fwy o wybodaeth.

Cwrs hunan-astudio - Lefel Mynediad

Eisiau astudio ar-lein? 

Mae cwrs hunan-astudio lefel Mynediad ar gael.

Dewiswch y botwm isod i gofrestru ar gwrs lefel Mynediad.

Cwrs Hunan Astudio - Lefel Sylfaen

Eisiau astudio ar-lein? 

Mae cwrs hunan-astudio lefel Sylfaen ar gael.

Dewiswch y botwm isod i gofrestru ar gwrs lefel Sylfen.

Cwrs Gwella Cymraeg

Eisiau mwy o hyder i ysgrifennu yn Gymraeg?

Mae cwrs Gwella Cymraeg Rhan 1 a Rhan 2 ar gael.

Dewiswch y botwm isod am fwy o wybodaeth.

Cysylltu â ni

Eisiau help i ffeindio cwrs? Dych chi'n gallu cysylltu â ni ar y ffôn, e-bost, neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dilynwch y ddolen isod am fwy o wybodaeth.