
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi ei Rhaglen Dysgu Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg heddiw (3 Gorffennaf), yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Dyma'r tro cyntaf i raglen genedlaethol, gynhwysfawr gael ei datblygu ar gyfer athrawon. Bydd ystod o hyfforddiant Dysgu Cymraeg ar gael, gan gynnwys y Cynllun Sabothol Cymraeg, sy'n darparu hyfforddiant dwys, sy'n trosglwyddo i'r Ganolfan o fis Medi ymlaen.
Mae llu o opsiynau dysgu ar gael, gan gynnwys cyrsiau ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i godi hyder, sydd ar gael fel modiwlau hunan-astudio ar-lein neu fel cyrsiau dan arweiniad tiwtor. Mae cyrsiau wedi'u teilwra ar gyfer y sectorau cynradd ac uwchradd, ac ar gyfer pynciau fel Addysg Gorfforol.
Bydd tiwtoriaid Dysgu Cymraeg yn gweithio ag Awdurdodau Lleol i'w helpu i gyflawni eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Bydd tiwtoriaid wedi'u lleoli mewn rhai ysgolion, i ddarparu cefnogaeth i staff, a bydd hyfforddiant hefyd ar gael i'r rheiny sy'n dilyn cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon.
Mae rhaglen y Ganolfan yn cefnogi Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn helpu cyflawni amcanion Bil y Gymraeg ac Addysg newydd, sy'n anelu at sicrhau bod pob disgybl yn siaradwr Cymraeg annibynnol erbyn diwedd oedran ysgol orfodol.
Eglurodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae arbenigedd dysgu a chaffael iaith y Ganolfan Genedlaethol, ochr yn ochr â’i phrofiad helaeth o gyflwyno cyrsiau Dysgu Cymraeg i oedolion, wedi ein galluogi i ymestyn ein gwaith i sectorau eraill er mwyn cefnogi amcanion polisi Llywodraeth Cymru.
“Rydym wrth ein bodd yn arwain y rhaglen genedlaethol newydd hon i athrawon, y gyntaf o’i math, sy’n adeiladu ar hyfforddiant Dysgu Cymraeg ’dyn ni’n barod wedi’i ddatblygu ar gyfer y sector Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a’r gweithlu Addysg Drydyddol.
“Mae ein rhaglen yn cynnig opsiynau dysgu eang a hyblyg, fydd yn uwchsgilio’r gweithlu ac yn cefnogi athrawon i gyflwyno a rhannu’r iaith gyda disgyblion ar lawr y dosbarth.”
Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
“Mae Bil y Gymraeg ac Addysg newydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gryfhau sgiliau dwyieithog ein gweithlu addysg.
“Rwy’n ddiolchgar i’r Ganolfan Genedlaethol am ei gwaith yn datblygu’r ystod lawn hon o opsiynau hyfforddi iaith Gymraeg. Bydd yr opsiynau creadigol sydd ar gael - sy’n cynnwys lleoli tiwtoriaid mewn ysgolion a gweithio gydag Awdurdodau Lleol - yn golygu y gallwn gefnogi anghenion y gweithlu.”
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Iaith Gymraeg:
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, ac mae’r sector Dysgu Cymraeg, dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol, wedi esblygu i gynnig ystod o opsiynau dysgu blaengar sy’n croesawu pobl o wahanol gefndiroedd a sectorau at yr iaith.
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau â phartneriaeth werthfawr y Llywodraeth â’r Ganolfan Genedlaethol dros y blynyddoedd nesaf.”
Mae elfennau o raglen y Ganolfan ar gyfer y gweithlu addysg wedi cael eu treialu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae 4,000 o athrawon eisoes wedi dilyn ystod o hyfforddiant Dysgu Cymraeg.
Un o’r athrawon hynny yw Claire Samuel, athrawes gelf o Ysgol Glan y Môr, Porth Tywyn. Dywedodd Claire Samuel:
“Rydw i wedi dilyn cyrsiau hunan-astudio a rhai rhithiol ac wedi cymryd rhan mewn cwrs dwys wythnos o hyd yn Nant Gwrtheyrn, gyda’r Ganolfan Genedlaethol.
“Mae wedi bod yn brofiad dysgu gwych sydd wedi fy helpu i ennill sgil newydd, a chynnig arweiniad ar sut i rannu’r iaith gyda’r plant yn yr ysgol. Mae’r hyfforddiant dw i wedi’i dderbyn wedi rhoi’r hyder i mi ddefnyddio a mwynhau fy Nghymraeg, tra hefyd yn cyfrannu at ethos Cymraeg yr ysgol.”
DIWEDD
Nodiadau'r golygydd
- Sefydlwyd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2016 ac mae'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
- Mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg gyda'r Ganolfan. Yn 2023-2024, cwblhaodd 18,330 o bobl ei chyrsiau, cynnydd o 45% o'i gymharu â'r data swyddogol cyntaf a gyhoeddwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2017-2018, sef 12,700.
- Mae arbenigwyr iaith y Ganolfan wedi datblygu cwricwlwm Dysgu Cymraeg cenedlaethol sy'n cyd-fynd â'r 'CEFR' (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd), sy'n rhoi llwybr clir i ddysgwyr ddod yn siaradwyr Cymraeg. Mae holl raglenni'r Ganolfan yn seiliedig ar y cwricwlwm.
- Mae Cynllun Sabothol y Gymraeg yn trosglwyddo i'r Ganolfan Genedlaethol o fis Medi ymlaen. Bydd tri darparwr, dan arweiniad y Ganolfan, yn darparu hyfforddiant dysgu dwys dros ddau dymor academaidd i athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd.
- Bydd corff statudol newydd, yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn cael ei sefydlu yn 2027 fel rhan o Fil y Gymraeg ac Addysg. Bydd gwaith y Ganolfan Genedlaethol yn trosglwyddo i'r corff newydd hwn.
- Mae'r Ganolfan yn cynnig miloedd o gyrsiau bob blwyddyn, boed yn y gymuned neu ar gyfer gwahanol grwpiau a sectorau, gan gynnwys teuluoedd, pobl ifanc, Iechyd a Gofal, a Chwaraeon. Bydd cyrsiau newydd yn dechrau ym mis Medi. Am ragor o wybodaeth: Croeso | Dysgu Cymraeg
- Am fwy o fanylion am wasanaethau’r Ganolfan ar gyfer y gweithlu addysg – sydd ar gael ar gyfer athrawon, prifathrawon cymorthyddion, staff cefnogi ac athrawon dan hyfforddiant - dilynwch y ddolen nesaf: Cymraeg Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg